Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ionawr 2013
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
1. Ar 28 Ionawr 2013, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 22 Ionawr 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 21 Mehefin 2013.
4. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 18
Hydref 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.